P-05-720– Deiseb Cyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn i Osod Band Eang opteg Ffibr yn y Pentref.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cllr James Campell ar ôl casglu 166 llofnod bapur.
Geiriad y ddeiseb
Rydym ni, trigolion Penderyn, wedi llofnodi’r ddeiseb isod i fynegi’n dymuniad i gael band eang opteg ffibr yn ein pentref. Byddai’r gwasanaeth hwn yn trawsnewid ein cymuned, yn ein helpu ni fel defnyddwyr i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn gymdeithasol yn ogystal â’r rhai sy’n gweithio yn y pentref naill ai mewn busnesau lleol neu sy’n gweithio gartref.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Cwm Cynon
· Canol De Cymru